Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (6) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Gofynnwyd y 11 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 8 a chwestiwn 10 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau.
14:40
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Gofynnwyd y 15 cwestiwn.
15:05
3 Cynnig i sefydlu pwyllgor i ystyried offerynnau statudol
NDM4733 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Offerynnau Statudol i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3 ac i ystyried unrhyw faterion eraill yn ymwneud â deddfwriaeth, ar wahân i’r swyddogaethau angenrheidiol yn ôl Rheol Sefydlog 26, a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
15:06
4 Cynnig i ethol Aelodau i'r Pwyllgor Offerynnau Statudol
NNDM4738 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
1. Julie James (Llafur), David Melding (Ceidwadwyr Cymreig), Simon Thomas (Plaid Cymru) a Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Offerynnau Statudol; a
2. David Melding yn Gadeirydd y Pwyllgor Offerynnau Statudol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
15:06
5 Cynnig i sefydlu pwyllgor i ystyried deisebau a gyflwynir i'r Cynulliad
NDM4732 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Deisebau i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheol Sefydlog 23.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
15:06
6 Cynnig i ethol Aelodau i'r Pwyllgor Deisebau
NNDM4737 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
1. Christine Chapman (Llafur), Russell George (Ceidwadwyr Cymreig), Bethan Jenkins (Plaid Cymru) a William Powell (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Deisebau; a
2. Christine Chapman yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
15:07
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4735 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn “Gofal gydag Urddas?”
Mae copi o Gofal gydag Urddas ar gael yn:
http://www.olderpeoplewales.com/wl/Reviews/dignity-and-respect/Hospital-review.aspx
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
16:10
8 Dadl Plaid Cymru
NDM4734 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen lywodraethu lawn a manwl ar gyfer tymor 5 mlynedd nesaf y Cynulliad.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ar ôl ‘tymor 5 mlynedd nesaf y Cynulliad’, ychwanegu ‘a rhoi cyfle i'r Cynulliad drafod y rhaglen’.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd, gan gynnwys manylion canlyniadau y gellir eu mesur, er mwyn dangos y cynnydd a wneir wrth roi ei rhaglen gyflenwi ar waith.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM4734 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen lywodraethu lawn a manwl ar gyfer tymor 5 mlynedd nesaf y Cynulliad.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
1 |
5 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
17:06
9 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
NDM4736 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pob dewis a fydd yn helpu i adeiladu economi gref i Gymru, gan gynnwys:
(a) Cyflwyno Parthau Menter, a
(b) Adeiladu ar gyhoeddiad ‘Cynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwy’ drwy gyflwyno proses Ariannu drwy Gynyddrannau Treth er mwyn i awdurdodau lleol allu ariannu prosiectau adnewyddu mawr drwy fenthyg yn erbyn yr incwm a grëir gan yr adnewyddu hwnnw yn y dyfodol.
Mae copi o ‘Cynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwy’ ar gael drwy’r ddolen ganlynol:
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 1:
ceisio datganoli pwerau dros dreth gorfforaeth ac amrywio treth er mwyn galluogi’r llywodraeth i fynd i’r afael â phroblemau strwythurol economi Cymru;
parhau i weithredu Rhaglen Adnewyddu’r Economi: Cyfeiriad Newydd.
Gellir gweld copi o ‘Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd’ yn:
Gwelliant 2 - Nick Ramsay (Sir Fynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog Llywodraeth Cymru i neilltuo symiau canlyniadol Fformiwla Barnett, a fydd yn deillio o greu Parthau Menter yn Lloegr, i’r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.
Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Sir Fynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad am ddyfodol Rhaglen Adnewyddu’r Economi.
Gellir gweld copi o ‘Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd’ yn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM4736 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pob dewis a fydd yn helpu i adeiladu economi gref i Gymru, gan gynnwys:
(a) Cyflwyno Parthau Menter, a
(b) Adeiladu ar gyhoeddiad ‘Cynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwy’ drwy gyflwyno proses Ariannu drwy Gynyddrannau Treth er mwyn i awdurdodau lleol allu ariannu prosiectau adnewyddu mawr drwy fenthyg yn erbyn yr incwm a grëir gan yr adnewyddu hwnnw yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
22 |
52 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
18:10
10 Cyfnod pleidleisio
Daeth y cyfarfod i ben am 18:12.
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 on Dydd Mawrth, 21 Mehefin 2011